OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1133 (Cy. 112)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu dull o adnabod ysgol fach a gynhelir at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”). Mae’r bennod honno yn nodi’r fframwaith statudol ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir. Mae adran 11 o Fesur 2011 yn darparu y caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio ysgolion ac nad yw darpariaethau penodol mewn perthynas â chyhoeddi ac ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio ysgolion bach yn unig.
Mae erthygl 2 yn darparu mai ysgol fach a gynhelir yw un sydd â llai na 91 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y gwneir y cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1133 (Cy. 112)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014
Gwnaed 29 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ebrill 2014
Yn dod i rym 22 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt yn adran 15 a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 22 Mai 2014.
Dull adnabod ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru
2.—(1) Mae’r erthygl hon yn diffinio ysgol fach a gynhelir yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”).
(2) Ysgol fach a gynhelir yw ysgol sydd â llai na 91 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y gwneir y cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2014